Yn wythnosau olaf Hydref ac wythnosau cyntaf Tachwedd mae’r chwilotwr yn gorfod bachu ar y cyfle i gael ychydig o garbohydrad i’w deiet. Does dim ffynhonnell well ar gael na’r gastan felys.
Treuliais i hanner awr gwynfydedig ar y ffordd adre o’r gwaith wythnos ddiwethaf yn pigo dros kilo o’r cnau hyfryd yma. Roedd yn bleser pur, gyda’r cnau yn glawio o’r coed tra fy mod i’n pigo, chwilio trwy’r dail a’r plisg ar y llawr i weld ambell un yn sgleinio lan ataf
a rhai arall yn pipo mas o’i plisg fel trysor cudd.
Peidiwch wneud y camgymeriad o gymysgu castan felys gyda chastan geffyl (conker). Fyddwch chi’n siŵr o ddweud y gwahaniaeth achos fyddwch chi ddim yn gallu pigo’r gneuen allan o’r castan felys heb fenig trwchus gan ei fod yn pigo fel draenog!
Os wnewch chi oresgyn y plisgyn pigog ma’ ddau beth arall i fod yn wyliadwrus ohonynt. Y cyntaf yw’r twyllwr. Mae’n edrych fel castan arall, yn bert ac yn ddeniadol
ond pan ‘dych chi’n ei bigo fynu mae’n fflat a werth dim.
Mae bob plisgyn yn dal dwy neu tair castan fach gydag un neu ddau werth pigo. Ffordd arall o wahaniaethu rhwng castan felys a chastan geffyl gan mai dim ond un gastan sydd ym mhlisgyn y gastan geffyl.
Yr ail yw’r cynrhonyn gostyngedig! Maggot i chi a fi! Os welwch chi dwll bach mae’n debygol na fydd lawer o’r gastan ar ôl felly mae’n werth gadael honno.
Unwaith i chi bigo’ch trysor beth allwch chi wneud gyda rhain oll? Maent yn hynod amlbwrpas. Gyda’r rhai bigais i, nes i flawd castan trwy eu berwi am ddeg munud cyn ei diblisgo a’i rhoi i’r Kenwood i’w malu’n fân. Wedyn nes i ei sychu yn y ffwrn am gwpwl o oriau cyn ei malu am yr eildro yn fân fân. Fyddai’n defnyddio’r blawd i wneud crempog castan neu roux cyfoethog.
Dwi wedi diblisgo a rhostio rhai ar 200 gradd C am 20 munud a’i rhewi er mwyn i fi wneud pastai castan wythnos nesa. Falle fydd hyd yn oed rhai ar ôl ar gyfer nut roast amser Nadolig!
Ond heb os nac oni bai y peth gorau i wneud yw creme de marron neu jam castan! Nid yw diblisgo castanau yn rhywbeth cyflym na pleserus felly mae angen digon o amser ac amynedd arnoch. Dwi’n gwneud o flaen y teledu! Mae’r canlyniadau gyda’r bwyd gwyllt gorau allech chi greu.
Mae’r rysáit yma wedi ei addasu o rysáit ar wefan cottagesmallholder.com felly diolch am yr ysbrydoliaeth!
Diblisgwch 750g o gastanau melys a’i mudferwi am 45 munud gyda sest un leim nes yn feddal. Cwpwl ar y tro tynnwch y cnau o’r dŵr a thynnu’r croen mewnol. (Dwi’n gwybod, ‘dych chi’n gofyn erbyn hyn “Pam nes i ddechrau?” daliwch ati!)
Gwasgwch y cnau meddal trwy rhidyll (dwi’n argymell gwneud hyn ond os dych chi’n teimlo’n ddiog erbyn hyn cyflwynwch nhw i’r Kenwood!)
Mewn sosban glan toddwch 400g o siwgr mewn 100ml o ddŵr ac ychwanegwch un pod fanila a’r castanau mâl i’r sirop. Mudferwch am 20 munud. Trowch y gymysgedd yn gyson.
Ychwanegwch 75ml o frandi a mudferwch am 10 munud gan droi’n gyson. Tynnwch y pod fanila.
Tywalltwch i jariau ddihaint (gwelwch y blogbost jam cefn gwlad am sut i wneud hynny)
Canlyniad: anhygoel!