Llyrlys – Marsh Samphire

 
Llyrlys – marsh samphire

Merllys – asparagus 

Merllys y môr – sea asparagus (enw arall amdano) 

 Mewn bwyty crand ddes i ar draws llyrlys am y tro cyntaf. Gafodd ei weini wrth ochr ddarn o bysgod arbennig. Roedd e’n syfrdanol o flasus felly on i’n hynod o falch o’i weld ar werth yn y farchnad bysgod un tro. Doeddwn i ddim yn falch pan ofynnodd y dyn wrth y cownter am bron gymaint am y llyrlys a wnaeth e am y pysgod on i’n ei brynu! 

Ma llyrlys wedi dod yn trendi ofnadwy dyddie ‘ma felly os dych chi ishe arbed ychydig a chi’n gwybod le i edrych allwch chi bigo digon i bara’r flwyddyn (os wnewch chi rhewi peth!) ymhen dim!

Wnewch chi ddim pigo llyrlys heb fynd ychydig yn frwnt, allai ddweud ‘na nawr wrthoch chi. Mae’n tyfu ar wastadoedd fwdllyd ac yn edrych yn debyg i cactws neu coed bach. Ewch pan ma’r llanw mas a chewch chi ddim trafferth dod o hyd i hen ddigon i ddod nôl â gyda chi. Cofiwch fynd a sisiwrn gyda chi fel eich bod chi ddim yn tynu’r gwreiddiau ar gam. 

Mae’n hen ddigon blasus i’w fwyta ar ben ei hun neu gydag ychydig o fenyn. Nes i ei fwyta gyda linguini, garlleg, tsili ac olew yr olewydd. Syml. Effeithiol dros ben. Ennill ar fywyd. 

Corn Carw’r Môr

Does dim byd gwell ar ddiwrnod calan na mynd mas am dro i drafod a hel atgofion am y flwyddyn a fu ac i edrych ymlaen at yr heriau a’r cyffro fydd yn dod yn ystod y flwyddyn newydd. Pan fydd hynny’n dod a bwyd am ddim i’r hafaliad gwell fyth! Er bod corn carw’r môr ar ei orau yn y gwanwyn, mae’n bosib ei ddarganfod gydol y flwyddyn.

Dwi wedi dysgu’r enw Cymraeg ers ffilmio’r fideo (diolch i gwylan) a dwi’n gweld yn gwmws pam mae’n cael ei alw’n corn carw!

Mae’n tyfu ar hyd ein harfordir, yn aml ar wyneb clogwyn ond nid yw’n hoffi gwlychu ei draed. Ewch am blanhigion sy’n tyfu mewn ardaloedd digon diogel a pheidiwch hongian oddi ar glogwyni i’w bigo! Mae’n braf ond nid mor braf â hynny!

Paratoais i sawl rysáit gyda’r corn carw’r môr. Mae’r un symlaf yn y fideo: salad tatws.

IMG_2995

Mae crempog sawrus gyda chorn carw’r môr yn un bach diddorol. IMG_2990

Roedd y cawl miso gan ddefnyddio betys y môr a’r corn carw i ychwanegu at y llysiau eraill yn wych.

IMG_2991

Peidiwch â gorwneud hi gyda’r corn carw! Mae’n blasu’n gryf!

Rhowch wybod os ‘dych chi ‘di dod o hyd i ychydig ac wedi mentro rysait gwahanol!

Dyma’r fideo!

Betys y Môr

Pe bawn yn gorfod argymell un bwyd gwyllt am ei rhinweddau niferus, betys y môr fydde hwnnw. Mae’n flasus. Mae’n hawdd ei adnabod. Mae’n amhosib ei gymysgu gyda unrhywbeth arall. Mae’n gyffredin iawn ac mae’n bosib ei bigo rhan fwyaf o’r flwyddyn. Beth allai fod yn well?

Mae’n perthyn i fetys cyffredin ac (o bell) i sbigoglys. I fi, mae’n well na’r ddau. Mae’n blasu fel sbigoglys ond yn well ac nid yw’n colli ei ansawdd wrth goginio. Bonws mawr i unrhywun sydd wedi gorgoginio sbigoglys a teimlo fel petaent yn bwyta papur tisw.

Mwynhewch y fideo cyntaf!

IMG_1140

 

Sut i greu salad o hanner letysen

Ymhyfrydwch fawr y chwilotwr, y ddawn o fedru creu rhywbeth o ddim byd. Wel, dim dim byd, ond rhywbeth am ddim! Cymerais gipolwg yn yr oergell dros y penwythnos i weld hanner letysen cos a fydde wedi gwneud salad eithaf sâl ar ei ben ei hun. Yn lle rhuthro i’r siop agosaf es i am dro bach hamddenol i’r parc lleol ble cefais hyd i’r holl gynhwysion oedd angen arnaf i wneud salad go-arbennig.

Mae’r amser yma o’r flwyddyn yn wych ar gyfer bwyd gwyllt ac un o’r symlaf i’w hadnabod a’r mwyaf helaeth yw garlleg gwyllt. Dwi wedi clywed pobl yn dweud fod garlleg gwyllt yn mynd yn dda mewn salad. Wedi dychmygu cnoi clôf garlleg amrwd dwi wastod wedi osgoi’r syniad ond wnaeth ei gymysgu gyda dail arall a’i flas cryn fwynach olygu fod y garlleg gwyllt wirioneddol wedi mynd yn dda mewn salad.

Nid oes angen cyflwyniad i ddant y llew chwaith. Ers pan yn blentyn ‘dyn ni gyd wedi adnabod dail danneddog y planhigyn yma. Pwy sy’n cofio’r gêm “Faint o’r gloch yw hi Mr Blaidd?”? Ar ei pen ei hunan mae’r dail yn gallu bod yn chwerw ac am y rheswm yma dwi ‘di bod yn amheus iawn am ei defnyddio. Fel mae’n digwydd maent yn mynd yn dda gyda’r garlleg gwyllt a’r briallu. Do mi glywsoch chi fi. Briallu. Dyma un o’r blodau bwytadwy niferus sy’n hawdd ei adnabod. Bois, gofynnwch i’ch wejen os nad ydych chi’n siŵr. Peth arall sy’n grêt i’r chwilotwr yw ei bod nhw’n tyfu’n wyllt amser hyn o’r flwyddyn.

Pwrpas y stori: Mae bwyd am ddim bob tro yn well na bwyd ‘dych chi ‘di talu i gael. Rhowch gynnig ar y salad yma. Hanner letysen, llond llaw o ddail garlleg gwyllt, llond llaw o ddail dant y llew, llond llaw o flodau briallu. Gadewch i fi wybod sut lwyddiant gewch chi neu os ‘dych chi am wybod mwy am arlleg gwyllt. @typaned

IMG_0001

Cordial Eithin

Mae’n amser mentro allan bobl. Mae’r glaw wedi tawelu ychydig a mae’r gwanwyn bendant wedi cyrraedd. Mae’r ympryd chwilota drosodd a mae’r bwyd gwyllt yn dechrau dangos ei ben.

Mae yna gyffro sy’n dod gyda chwilota cynta’r flwyddyn. Mae’n rheoli cyflymder bywyd. Cymerwch amser i gysylltu gyda’r tymhorau a fyddwch chi’n gwerthfawrogi nid ni sy’n rheoli’n bywydau felly ymlaciwch i lif y greadigaeth. Bara gwymon oedd y bwyd cyntaf o’r flwyddyn i gael ei ysbrydoli gan calendr y chwilotwr a roedd e’n flasus dros ben. Fel mae’n digwydd mae bara gwymon yn flas caffaeledig (aquired). Dwi’n bendant wedi caffael arno ond nid oedd pawb nath ei drio!

Mae’n sbel fach eto cyn bod masgynhyrchiad cordial blodysgaw ddechrau ym mis Mehefin felly mae angen rhywbeth arna i i gadw fi fynd. Cordial blodyn eithin yw’r eilydd perffaith. Mae’n flodeuog iawn ei flas, rhywbeth rhwng rhosyn a blodysgaw. Mae pigo eithin yn hynod heriol a ddanjeris ac fe ddylech gymryd bob rhagofal posib i sicrhau diogelwch rhag y bwystfilod anwar yma. Dwi’n tueddu tuag at y dechneg un maneg gan ei fod e ychydig yn lletchwith pigo’r blodau bach gyda bysedd fel selsig. Mantais penaf eithin yw ei fod ar gael trwy rhan helaeth y flwyddyn. Mae’n well ym  mis Ebrill pan mae’r perthau yn felyn a pan gerddwch chi heibio mae’n ffroenau yn llenwi, nid gyda arogl cnau goco ond yn hytrach gyda arogl eli haul cnau goco. Mae rhywbeth arbennig am fedru yfed cordial eithin ar ddiwrnod Nadolig neu’r flwyddyn newydd.

Felly sut allwch chi ei wIMG_1896neud?

Berwch 1100ml o ddŵr, 600g siwgr, 2 llond llaw (tua 50g neu 500ml mewn pyrex) blodau eithin, sest oren, sudd lemwn a llwy de asid sitrig nes i’r siwgr hyddodi (tua 15 munud). Mae hyn yn echdynnu llawer o’r blas o’r blodau.

Ar ôl iddo oeri ychydig ychwanegwch 2 llond llaw arall o’r blodau eithin sy’n ychwanegu blasau ysgafn sy’n cael ei berwi i ffwrdd. Gadwech am 24 awr yna straeniwch trwy fwslin. Ychwanegwch ddŵr i’ch blas. Mae 1:3 yn gweithio’n dda.

Os ydych yn penderfynnu nid eich peth chi yw cordial eithin trïwch creu jeli allan ohono. Hylif + gelatin = jeli yw’r fformwla syml. Ewch draw i Dŷ Paned i weld y blog ar Chalet sgïo ar sut i’w ddefnyddio!

Castan Felys!

Yn wythnosau olaf Hydref ac wythnosau cyntaf Tachwedd mae’r chwilotwr yn gorfod bachu ar y cyfle i gael ychydig o garbohydrad i’w deiet. Does dim ffynhonnell well ar gael na’r gastan felys.

Treuliais i hanner awr gwynfydedig ar y ffordd adre o’r gwaith wythnos ddiwethaf yn pigo dros kilo o’r cnau hyfryd yma. Roedd yn bleser pur, gyda’r cnau yn glawio o’r coed tra fy mod i’n pigo, chwilio trwy’r dail a’r plisg ar y llawr i weld ambell un yn sgleinio lan ataf

20131104-181834.jpg

a rhai arall yn pipo mas o’i plisg fel trysor cudd.

20131104-181923.jpg

Peidiwch wneud y camgymeriad o gymysgu castan felys gyda chastan geffyl (conker). Fyddwch chi’n siŵr o ddweud y gwahaniaeth achos fyddwch chi ddim yn gallu pigo’r gneuen allan o’r castan felys heb fenig trwchus gan ei fod yn pigo fel draenog!

Os wnewch chi oresgyn y plisgyn pigog ma’ ddau beth arall i fod yn wyliadwrus ohonynt. Y cyntaf yw’r twyllwr. Mae’n edrych fel castan arall, yn bert ac yn ddeniadol

20131104-182139.jpg

ond pan ‘dych chi’n ei bigo fynu mae’n fflat a werth dim. 20131104-182221.jpg

Mae bob plisgyn yn dal dwy neu tair castan fach gydag un neu ddau werth pigo. Ffordd arall o wahaniaethu rhwng castan felys a chastan geffyl gan mai dim ond un gastan sydd ym mhlisgyn y gastan geffyl.

Yr ail yw’r cynrhonyn gostyngedig! Maggot i chi a fi! Os welwch chi dwll bach mae’n debygol na fydd lawer o’r gastan ar ôl felly mae’n werth gadael honno.

20131104-182055.jpg

Unwaith i chi bigo’ch trysor beth allwch chi wneud gyda rhain oll? Maent yn hynod amlbwrpas. Gyda’r rhai bigais i, nes i flawd castan trwy eu berwi am ddeg munud cyn ei diblisgo a’i rhoi i’r Kenwood i’w malu’n fân. Wedyn nes i ei sychu yn y ffwrn am gwpwl o oriau cyn ei malu am yr eildro yn fân fân. Fyddai’n defnyddio’r blawd i wneud crempog castan neu roux cyfoethog.

Dwi wedi diblisgo a rhostio rhai ar 200 gradd C am 20 munud a’i rhewi er mwyn i fi wneud pastai castan wythnos nesa. Falle fydd hyd yn oed rhai ar ôl ar gyfer nut roast amser Nadolig!

Ond heb os nac oni bai y peth gorau i wneud yw creme de marron neu jam castan! Nid yw diblisgo castanau yn rhywbeth cyflym na pleserus felly mae angen digon o amser ac amynedd arnoch. Dwi’n gwneud o flaen y teledu! Mae’r canlyniadau gyda’r bwyd gwyllt gorau allech chi greu.

Mae’r rysáit yma wedi ei addasu o rysáit ar wefan cottagesmallholder.com felly diolch am yr ysbrydoliaeth!

Diblisgwch 750g o gastanau melys a’i mudferwi am 45 munud gyda sest un leim nes yn feddal. Cwpwl ar y tro tynnwch y cnau o’r dŵr a thynnu’r croen mewnol.  (Dwi’n gwybod, ‘dych chi’n gofyn erbyn hyn “Pam nes i ddechrau?” daliwch ati!)

Gwasgwch y cnau meddal trwy rhidyll (dwi’n argymell gwneud hyn ond os dych chi’n teimlo’n ddiog erbyn hyn cyflwynwch nhw i’r Kenwood!)

Mewn sosban glan toddwch 400g o siwgr mewn 100ml o ddŵr ac ychwanegwch un pod fanila a’r castanau mâl i’r sirop. Mudferwch am 20 munud. Trowch y gymysgedd yn gyson.

Ychwanegwch 75ml o frandi a mudferwch am 10 munud gan droi’n gyson. Tynnwch y pod fanila.

Tywalltwch i jariau ddihaint (gwelwch y blogbost jam cefn gwlad am sut i wneud hynny)

Canlyniad: anhygoel!

20131104-182007.jpg

Madarch Gwyllt

Wrth i ni grwydro mewn i fis Hydref mae’r aeron gwyllt yn dechrau diflannu a mae’r rhai sy’n dal ymlaen wedi gweld dyddiau gwell, mae’n gallu bod yn demtasiwn i hongian y fasged chwilota nes dyddiau braf a thyfiant newydd y Gwanwyn. Cyn bod mor fyrbwyll mae angen i ni gofio rhywbeth sydd a’i tymor orau yn ystod mis Hydref. Madarch gwyllt ‘dy rheini.

Mae na hyd at 6000 o fathau gwahanol o fadarch yn tyfu’n wyllt ym Mhrydain yn unig. O’r rhain mae yna tua 6% yn gallu’ch gwneud yn sâl iawn neu hyd yn oed yn gallu’ch anfon i’r byd nesa cyn eich bod yn barod a’r rhan helaeth yn rhy fach neu ddiflas i boeni am gasglu.
Beth yw’r pwynt felly? Wel ma ‘na bron 100 math bwytadwy a sawl un blasus dros ben gan gofio’r holl bwynt chwilota yn y lle cyntaf; mae’n cysylltu ni gyda’r tymhorau ond yn fwy na hynny mae’r bwyd am ddim!

Nid ar chwarae bach ma’ rhywun yn mynd ati i chwilota am fadarch gwyllt. Mae John Wright o River Cottage yn dweud fod yna chwilotwyr hen a chwilotwyr eofn. Does dim chwilotwyr hen ac eofn! Y peth pwysig yw mae’n rhaid bod yn 100% sicr o’r hyn dych chi’n casglu i fwyta. Nid yw 99% yn ddigon sicr wrth feddwl am y rhifau uchod.

20131012-080446.jpg
Fly Agaric. Peidiwch bwyta hwn!!

Mae’n gallu bod yn ben tost llwyr weithiau (ta pa mor hir dych chi wedi bod wrthi yn chwilota) dweud yn bendant be’ ‘di be’. Dyma’r gyfrinach felly; yn lle pigo a phigo a diflasu pan dych chi’n methu rhoi adnabyddiaeth positif ar rhywbeth, dysgwch 5 neu 6 math arbennig sy’n amhosib ei cymysgu gyda unrhywbeth arall a fydd llwyddiant ar y gweill.

Fydd angen o leiaf 2 lyfr da arnoch ac os yn bosib ewch gyda rhywun profiadol. Y llyfr mwyaf cyfeillgar yw’r River Cottage Mushroom handbook. Mae’n berffaith i ddysgwyr gan ei fod e ddim yn tybio fod unrhyw wybodaeth flaenorol gyda’r darllenwr. Mae llyfr Collins Gem o’r enw Mushrooms gan Patrick Harding yn fwy eang o ran cynnwys ond mae’r disgrifiadau yn llai manwl.

Dyma’r 5 gorau i ddechrau chi bant

Siantrel – Cantherellus cibarius – Blasus iawn a lliw hyfryd i ddod ag ychydig o heulwen i’r plât.

20131011-224535.jpg

Ffwng draenog – Hydnum repandum – Yn cael ei alw felly achos fod ganddo drain fel draenog yn hytrach na tagellau (gills) arferol. Mae’n amhosib ei gymysgu gyda unrhywbeth arall.

20131012-074714.jpg

20131012-074918.jpg

Sep – Boletus edulis- Wedi ei fawrygu i’w statws fel un o’r goreuon. Hynod flasus. Gall neb galw ei hun yn chwilotwr madarch heb ddod ar draws un o rhain. Dyma beth mae’r Eidalwyr yn ei alw’n porcini.

20131012-075052.jpg

Shaggy ink cap – Coprinus comatus- Hawdd iawn ei adnabod, cyffredin dros ben ac unwaith eto yn un o’r goreuon yn yr adran blas.

20131011-223227.jpg

Clystiau Iddew- Auricularia auricular-judae – Fydden i ddim yn dewis rhain i ffrïo a chael ar dost ond ma nhw’n rhoi blas anhygoel i unrhyw fath o gawl ac maent yn un o’r ychydig fadarch sydd ar gael yr holl flwyddyn.

20131104-174810.jpg

Gobeithio wnewch chi rhoi gynnig arni, mae e werth e yn bendant ond cofiwch peidiwch bwyta unrhywbeth nad ydych chi’n 100% am.

100 pwynt parch i’r person cyntaf i rhoi sylw gyda lluniau ohonoch chi gyda’r 5 uchod!

Danadl poethion 1

IMG_2180

Danadl poethion. Dyn ni gyd yn ei hadnabod nhw. Mae’n un o’r ychydig blanhigion dyn ni’n dysgu am pan yn blant ynghyd â mwyar. Un da sy’n ein maethu gyda losin cefn gwlad. Un sy’n ein llonni ni pan dyn ni allan yn cerdded ac wedi blino, gyda’r egni corfforol a meddyliol i gadw fynd i gyrraedd ein nod. Un sy’n ddrwg. Un i gadw draw wrtho achos os mentrwn yn rhy agos fydd yn ymosod arnom ac yn ein niweidio’n ddifrifol.

Y gwir yw ma danadl poethion yn un o’r gwyrddion mwyaf blasus, helaeth ac o fudd i’n hiechyd ni gallwn ni chwilota am ddim. Maent yn llawn haearn, protein a fitaminau A a C. Maent yn cael ei defnyddio am amryw helaeth o glefydau. Er hyni gyd fydden i’n lot llai tebygol o’i bwyta os nad oeddent yn blasu’n hynod dda.

Yn ôl y sôn ma’ ‘na thechneg i bigo danhadlen poeth heb gael eich pigo ond dwi heb feistroli hyn eto! Dwi’n mynd am y dechneg maneg drwchus yn y maes a’r Marigolds pan dwi nôl yn y gegin i osgoi cael fy mhigo. Unwaith ‘dych chi’n berwi nhw am ryw bum munud mae’r pigynau yn peidio pigo a ‘dych chi’n gallu ei bwyta yn hapus heb yr ofn.

Dwi ‘di bod yn mynd tamaid bach yn nyts yn gweld faint o wahanol bethau dwi’n gallu neud gyda danadl poethion ac fe fydd blogbost newydd yn sôn am rheini ond am nawr dwi’n siwr eich bod am gael rysáit sŵp (gas gen i’r gair cawl am rywbeth sydd ddim yn gawl) danadl poethion- yr hyn oeddech chi’n disgwyl ar ddechrau’r blogbost!

Hanner bag plastig o ddanadl poethion (yr uned safonol i fesur danadl poethion) neu os dych chi am fod ychydig yn fwy pwyllog hanner pwys / 500g

Pwys / 1kg tatws melys wedi’i torri i giwbiau

Peint a hanner / 850ml stoc llysiau

Pupur du

IMG_2183

1 llwy de nytmeg

4 llwy fwrdd crème fraîche

1 clof garlleg

Cynheswch ychydig o olew mewn sosban a choginiwch y tatws a’r garlleg am ychydig funudau. Ychwanegwch y stoc a’r danadl poethion a choginio nes bod pob dim yn feddal. Sesnwch gyda’r pupur a’r nytmeg ac ychwanegwch y crème fraîche cyn blendio gyda blender llaw.

Mwynhewch.

Port eirin ysgaw

Wel, mae’r haf wedi dod a mynd. Mae dal ychydig o gordial blodysgaw ar ôl sydd yn gallu f’atgoffa am yr haf gwych a fu ond Medi’r cyntaf yw’r diwrnod lle dyn ni’n ffarwelio â’r hâf ac yn croesawi’r hydref. Mae gan greadigaeth digon i’w gynnig i’r chwilotwr llygaid barcud.IMG_2164

Treuliais yr haf yn chwilota, pobi a gorffen y cwb ffowls heb anghofio pythefnos yng Ngroeg! Oeddwn i wrth fy modd gyda fy mara gwymon, gwnaed â gwymon o’r traeth yn Nhrefin. Dwi ‘di taro’r hoelen ar ei phen gyda choffi dant y llew (y gyfrinach yw rhostio darnau yr un maint neu byddwch yn llosgi peth tra bod darnau arall dal yn llipa) (mae’r ddau yna’n haeddu blogbost ei hun!) ond mae’r gwir gyffro yn digwydd nawr. Aeron yr hydref.

Mwyara yw’r chwilota mwyaf mentrus ma’ ran fwyaf ohonom ni’n neud. Dyma dair deddf mwyara:

  1. Fyddwch chi yn cael eich scrapo.
  2. Mae yna wastad mwyaren well jyst allan o’ch cyrraedd.
  3. Allwch chi fyth cael digon.

IMG_2156 

Achos dwi’n dwli ar fwyd am ddim fyddai allan yn mwyara mor aml â phosib. Dwi’n gwneud jam, crymbl, pastai a dwi wastad yn rhewi rhai ar gyfer nes mlaen yn y flwyddyn.  Mewn gwirionedd mae ‘na lawer mwy o aeron ar gael i’r chwilotwr craff. Dwi di gweld eirin duon, eirin gwyllt, eirin bach sur, afalau bach sur (oce, diw e ddim yn aeronen) ond os mae yna un fydden i’n argymell chi i drïo eirin ysgaw yw’r rheini. Maen nhw llawn fitamin C, mae yna gyflenwad digonol, maen nhw’n gwneud jam gwych a chordial ond y peth gorau oll ydy:

Port eirin ysgaw. O’r funud dwi’n pigo’r blodysgaw olaf yng nghanol Gorffennaf dwi’n disgwyl ‘mlaen i’r aeron. Yn llythrennol o’n i’n meddwl,dwi’n methu aros i’r aeron! Ar hyn o bryd dwi’n bragu gwin blodysgaw, gwin cyrens coch. Ma’ fodca blodysgaw gyda fi ond mmmm y port ’na. Fydd rhaid mynd i chwilota cyn bo hir cyn bod yr adar yn helpu’i hun!

Dyma’r rysáit. Diolch Megan am dy help!

4 peint eirin ysgaw (rhowch nhw mewn jwg mesur)

1.5 kg siwgr

125g rhesins

4.5 litr o ddŵr

Dewch a’r dŵr a’r eirin ysgaw i’r berw a mudferwch am 15 munud.

Hidlwch (trwy fwslin) a thaflwch y pwlp.

Ychwanegwch y siwgr a’r rhesins i’r hylif twym a gadewch iddo oeri. Epleswch mewn demijohn (defnyddiais i fwced llynedd gan fod dim un gyda fi) am bump neu chwe diwrnod a photelwch mewn poteli di-haint. Cadwch am flwyddyn. Oce nes i gadw fe nes Nadolig gan fy mod i’n rhy ddiamynedd ac o’n i ishe anrhegion rhad i’r teulu! Nefolaidd.

Bragwch yn frwd.